Rhif y Ddeiseb: P-05-945

Teitl y ddeiseb: Yr Argyfwng Hinsawdd a Choedwig Genedlaethol i Gymru

Geiriad y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynyddu gorchudd coed ar frys a hynny er mwyn helpu mynd i’r afael â'r argyfwng hinsawdd a chwymp natur sydd wedi’i gofnodi'n dda.

Fe ddatgelodd ‘Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol’ Llywodraeth Cymru nad oes unrhyw ecosystemau yng Nghymru yn wydn yn ecolegol.

Mae arnom angen mwy o goed mewn ardaloedd trefol a gwledig i fynd i’r afael â lefelau uchel o lygredd aer, i leihau cyfnodau poeth dros ben ynghyd â llifogydd, i gynyddu bywyd gwyllt a chreu storfa garbon uwchben ac o dan y ddaear.

Fe all afonydd, gwrychoedd a lleiniau gysylltu cynefinoedd mewn ffordd effeithiol iawn, ac mae’r rhain yn croesi Cymru o’r mynyddoedd i’r arfordir.  Mae gan lawer ohonynt goedwigoedd, dolydd a chorsydd hynafol cyfoethog o ran bioamrywiaeth, ond mae eu hystod a’u hansawdd wedi dirywio'n aruthrol dros y 50 mlynedd diwethaf.

Mae ein hafonydd ar eu hiachaf pan fydd stribedi eang o goetir llydanddail wrth eu hochrau, wedi’u pori’n ysgafn. Mae coed yn darparu rhywfaint o gysgod tywyll gan gadw afonydd yn oer a’u hamddiffyn rhag llygredd, gan leihau erydu pridd sy’n digwydd mewn ffordd anghynaladwy, a’u helpu i gadw ffermwyr ar y tir.

Er mwyn helpu natur i wella mae rhaid i ni ail-greu tirweddau sy’n fwy cyfeillgar i fyd natur trwy greu cynefinoedd rhyng-gysylltiedig mwy ac iachach.

Wedi’i gosod a’i hariannu’n gywir, fe all coedwig genedlaethol newydd ddarparu llawer o atebion ar gyfer holl genedlaethau’r dyfodol, sef Cymru ‘wytnach’.


Rydym yn galw am strategaeth gynhwysfawr i gyflawni:

·         cynnydd o 5000 hectar y flwyddyn mewn gorchudd coed mewn ardaloedd trefol, ar ffermydd ac yn yr ucheldiroedd

·         gorchudd coed sydd o leiaf 50% o goed llydanddail brodorol, sydd orau ar gyfer bioamrywiaeth, a lles y cyhoedd

·         rheoli coed, coedwigoedd, coetiroedd a gwrychoedd yn gynaliadwy, i'w hamddiffyn rhag difrod a darparu brithwaith cymysg o gynefinoedd i fyd natur a phobl

·         cyllid newydd i ffermwyr ar gyfer ‘Gwrychoedd a Lleiniau’ a phorfa goediog draddodiadol – amaeth-goedwigaeth

·         cyllid ar gyfer meithrinfeydd coed cymunedol, i alluogi pobl i ddod o hyd i safleoedd ar gyfer coed, plannu a thyfu coed ledled Cymru

·         ‘Coedwig Genedlaethol Cymru’ sy’n wirioneddol genedlaethol ac arloesol

 


1.        Cefndir

1.1.            Coetiroedd yng Nghymru

Rhychwant gofodol

Roedd 309,000 hectar (ha) o goetiroedd yng Nghymru ym mis Mawrth 2019, a oedd yn cynrychioli 14.9% o gyfanswm arwynebedd y tir. Cyfartaledd yr UE ar gyfer arwynebedd coetir yw 37%. Mae 92,700 ha arall o orchudd coed y tu allan i goetiroedd (ym mis Ionawr 2016), a welir yn bennaf mewn tirweddau amaethyddol, ardaloedd trefol a choridorau trafnidiaeth. Mae hyn yn golygu bod tua 19.4% o arwynebedd tir Cymru wedi’i orchuddio gan goetiroedd a choed.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod y cymedr gorchudd canopi coed mewn trefi yng Nghymru yn 16.3% yn 2013 (PDF, 1.35MB). Mae hyn yn ostyngiad o 17% yn 2009. Mae mannau agored cyhoeddus yn cyfrif am 53% o orchudd coed trefol er eu bod yn gorchuddio 22% yn unig o dir trefol ac ardaloedd tai dwysedd uchel, yn aml mewn lleoedd o amddifadedd uchel, yn cynnwys dim ond 1% o orchudd coed trefol. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod 72% o drefi Cymru wedi colli gorchudd coed rhwng 2009 a 2013, a chafodd 7,000 o goed mawr eu tynnu oddi ar drefi a dinasoedd rhwng 2006 a 2013.

Plannu ac ailstocio

Yn 1905, dim ond 88,000 ha o goetir yng Nghymru, ond erbyn 1965 roedd hyn wedi tyfu i 201,000 ha, ac erbyn 1998 roedd 299,000 ha o orchudd coetir.

Y gyfradd blannu ar gyfartaledd am y degawd diwethaf (2009-2019) oedd 430 ha y flwyddyn. Y gyfradd ailstocio ar gyfartaledd (ailblannu coed oedd wedi cwympo) am y degawd diwethaf oedd 1,920 ha y flwyddyn.

Gosododd Strategaeth Newid Hinsawdd Cymru (2010)darged o blannu 100,000 ha o goetir newydd rhwng 2010 a 2030 ar gyfradd o 5,000 ha y flwyddyn. Yn Coetiroedd i Gymru: cynllun gweithredu (2016), dywedodd Llywodraeth Cymru mai dim ond 3,203 ha o goetir newydd a gafodd eu plannu rhwng 2010 a 2015. Adolygodd Llywodraeth Cymru ei tharged plannu yn 2018, gweler yr adran ar y polisi cyfredol isod.

1.2.          Gwasanaethau ecosystem

Gwasanaeth ecosystem yw canlyniad system naturiol sydd â buddion i bobl. Mae Llywodraeth Cymru yn categoreiddio’r gwasanaethau hyn yn ei Strategaeth Coetiroedd i Gymru fel a ganlyn:

§  gwasanaethau cyflenwi – e.e. cynhyrchu coed;

§  gwasanaethau rheoleiddio – e.e. dal a storio carbon a gwella ansawdd aer;

§  gwasanaethau diwylliannol – ee buddion hamdden ac iechyd; a

§  gwasanaethau cynnal - e.e. cynyddu bioamrywiaeth.

Roedd Forest Research yn rhoi gwerth ar adnoddau coetir Cymru yn y pedwar maes penodol o echdynnu pren, dal a storio carbon, hamdden ac ansawdd aer. Fe wnaethant ganfod mai cyfanswm gwerth blynyddol y gwasanaethau a ddarperir gan goetiroedd Cymru yn 2015 oedd £606m. Dangosir y dadansoddiad rhwng y pedwar gwasanaeth gwahanol yn Nhabl 1.

Tabl 1: Gwerth blynyddol y gwasanaethau a ddarperir gan goetiroedd Cymru yn 2015. Ffynhonnell:  Forest Research

Gwasanaethau ecosystem

Echdynnu pren

Dal a storio carbon

Hamdden

Ansawdd aer

Cyfanswm

Gwerth (£m)

28.3

108

85

385

606.3

 

Sector coedwigaeth fasnachol

Dangosodd y Dangosyddion Coetiroedd i Gymru diweddaraf fod Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) y sector coedwigaeth yng Nghymru yn £665m yn 2017. Roedd £50m o’r cyfanswm hwn o dorri a thrin coed, £250m o weithgynhyrchu cynhyrchion pren, a £365m o weithgynhyrchu papur.

Cyflogwyd rhwng 10,300 ac 11,000 o bobl yn y sector coedwigaeth yn 2017, gyda 9,000 o’r rhain yn gyflogeion a 2,000 yn hunangyflogedig. Roedd 805 o unedau busnes unigol yn y sector. Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys busnesau sy’n cael eu cefnogi gan goetiroedd, fel hamdden.

Storio carbon ac ansawdd aer

Amcangyfrifir bod faint o garbon a gafodd ei secwestru (ei gymryd i mewn a’i storio) gan goetiroedd Cymru yn 1.84 miliwn tunnell cyfwerth â charbon deuocsid (CO2e) bob blwyddyn. Mae’r sector Defnyddio Tir, Newid Defnydd Tir a Choedwigaeth (LULUCF) yn ei gyfanrwydd yn sinc net o garbon, a gostyngodd allyriadau Cymru 770,000 tunnell CO2e yn 2016.

Ymysg y llygryddion aer sy’n cael yr effaith fwyaf ar iechyd pobl mae mater bach, gronynnol sy'n llai na 10 µm o faint (PM10). Yn 2015 amcangyfrifwyd bod coetiroedd Cymru wedi tynnu 16,211 tunnell o PM10 o’r aer. Gan ddefnyddio canllawiau cost difrod ansawdd aer, cafodd y PM10 hwn a waredwyd yn 2015 ei brisio yn £385 miliwn.

Hamdden

Mewn arolwg yn 2019 a gynhaliwyd gan Forest Research, dywedodd 77% o ymatebwyr Cymru eu bod wedi ymweld â choetiroedd ar gyfer hamdden yn ystod y 12 mis diwethaf, a cherdded oedd y gweithgaredd mwyaf poblogaidd. Mae nifer y grwpiau coetiroedd cymunedol gweithredol wedi cynyddu o 76 yn 2016 i 95 yn 2019. Mae arwynebedd y tir ar brydles, sy’n eiddo i grwpiau cymunedol neu’n cael eu rheoli ganddynt wedi cynyddu o 1,706 ha yn 2016 i 5,623 ha yn 2019.

Bioamrywiaeth

Mae Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) yn nodi bod coetir derw ucheldirol ymhlith y mwyaf helaeth o’r holl gynefinoedd o'r pwys mwyaf yng Nghymru. O’r 542 rhywogaeth o’r pwys mwyaf, canfu Comisiwn Coedwigaeth Cymru fod 210 o rywogaethau yn dibynnu’n llwyr neu’n rhannol ar gynefinoedd coetir.

Yn y SoNaRR, canfu bod coetiroedd llydanddail lled-naturiol gwydnwch ecosystem a aseswyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn weddol wydn, ac roedd y gwytnwch yn gymedrol i uchel ar gyfer coetiroedd wedi’u plannu (cymysgeddau brodorol ac anfrodorol).

 

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Strategaeth Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Coetiroedd i Gymru diweddaraf ym mis Mehefin 2018, gan nodi ei gweledigaeth ar gyfer coetiroedd dros yr 50 mlynedd nesaf.

Y pedwar maes allweddol i’w cyflawni yn y strategaeth yw:

§  Ymateb i newid hinsawdd

§  Coetiroedd i bobl

§  Sector coedwigaeth cystadleuol ac integredig

§  Ansawdd amgylcheddol

Mae’r strategaeth yn nodi uchelgais i blannu o leiaf 2,000 ha o goetir newydd yn flynyddol rhwng 2020 a 2030. Argymhellwyd y targed hwn gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd i Gymru fodloni ei gofynion statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o ostyngiad o 80% mewn allyriadau o’r llinell sylfaen erbyn 2050.

Mae cynllun cyflenwi carbon isel (2019) Llywodraeth Cymru yn ailadrodd mai ei huchelgais yw cyrraedd y targed plannu coed o 2,000 ha y flwyddyn, ond i gynyddu hyn i 4,000 ha y flwyddyn “cyn gynted ag y bo modd”.

Coedwig Genedlaethol

Fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford, gynnwys y syniad o Goedwig Genedlaethol yn ei faniffesto arweinyddiaeth. Adlewyrchir y cynnig ym ‘Mholisi 9’ y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, sy’n nodi:

“Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddatblygu coedwig genedlaethol a bydd yn nodi safleoedd a dulliau cyflawni priodol er mwyn cyflawni’r nod hwn. Caiff camau gweithredu i ddiogelu lleoliadau ar gyfer y goedwig genedlaethol eu cefnogi.”

Cafodd y weledigaeth ar gyfer y Goedwig Genedlaethol ei chyflwyno gan y Prif Weinidog ar 12 Gorffennaf 2019 i’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog:

“… I am very, very committed to the idea of developing a national forest for Wales, both because in a climate emergency context, it's an obligation on us to do more, and I also think it's just such a great thing to have for Wales. We have this fantastic coastal path, which is a tremendous draw to people in Wales, and a national forest, which is not just picking a new area and putting it there, but trying to link up the forests we have in Wales already so that you could walk continuously from one part of Wales to the other, almost, never leaving the national forest, is my vision of it. I want it to be somewhere where people want to go, where there'll be opportunities for leisure like mountain biking—lots of things we can do.

It's a 20-year project, and the latest advice that I've been looking at is to look at the map and see where existing forests are already to be found and then how we can create corridors between them, so that, in the end, over a 20-year period, there will be this continuous forest, and looking to see where the first opportunities are to begin that.”

Llythyr y Gweinidog

Ysgrifennodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths (y Gweinidog o hyn ymlaen) at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynglŷn â’r ddeiseb hon ar 11 Chwefror 2020. Yn y llythyr, pwysleisiodd y Gweinidog fod dull Llywodraeth Cymru wedi’i amlinellu yn y strategaeth Coetiroedd i Gymru.

Mewn perthynas â’r Goedwig Genedlaethol, dywed y Gweinidog:

“The Welsh Government is investing £4.5m to begin establishing a National Forest in Wales. The National Forest will contribute to increasing woodland creation in Wales, alongside other measures such as the Glastir Woodland Creation scheme. The National Forest will also unlock other opportunities, such as helping local communities better connect with the natural environment and tourism.”

Ychwanegodd y Gweinidog fod gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth yn flaenoriaeth a bod Llywodraeth Cymru eisiau annog ymgysylltiad cymunedol mewn coetiroedd, gan ddarparu cyllid tuag at ‘Llais y Goedwig’, sef rhwydwaith coetiroedd cymunedol, llawr gwlad.

 

3.     Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: Adroddiad ymchwiliad y Pwyllgor

Cyhoeddodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad adroddiad ym mis Gorffennaf 2017 yn dilyn ei ymchwiliad i bolisi coetiroedd.

Amlygodd y diffyg difrifol o greu coetiroedd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd rhwystrau rheoliadol, biwrocrataidd, ariannol a diwylliannol. Nododd hefyd mai’r gred oedd bod diffyg cyllid ar gyfer rheoli coetir yn effeithio ar ansawdd amgylcheddol coetiroedd brodorol.

Gwnaeth yr adroddiad 13 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, â'r nod o wella cyfraniad amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol coetiroedd Cymru.

Cafwyd ymateb ffurfiol gan y Gweinidog i’r adroddiad ym mis Medi 2017. Derbyniodd 12 o’r 13 argymhelliad, er bod naw o'r rhain wedi'u derbyn mewn egwyddor yn unig. Gwrthododd un yn unig.

Un o’r argymhellion a dderbyniodd oedd annog Llywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth Coetiroedd i Gymru; cafodd y ddogfen wedi’i diweddaru ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2018 (gweler uchod).

Roedd yr un argymhelliad a wrthodwyd yn galw ar i Lywodraeth Cymru ymrwymo i sicrhau isafswm o 20 y cant o orchudd canopi gan goed mewn trefi. Dywed y Gweinidog fod un targed yn annhebygol o helpu i gyflawni nodau’r Pwyllgor ac y byddai'n rhagfarnu'r broses benderfynu leol a ragwelir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn a Phwyllgorau

Codwyd y cysyniad o goedwig genedlaethol mewn nifer o gyfarfodydd pwyllgor y Cynulliad ac yn y Cyfarfod Llawn yn ystod y misoedd diwethaf.

Yn ystod sesiwn graffu ar y gyllideb ddrafft 2020-21 yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn y Cynulliad, gofynnwyd i’r Gweinidog a oedd y cyfalaf o £4.5m a ddyrannwyd yn ddigon i gyrraedd targedau plannu coed Llywodraeth Cymru. Mewn ymateb dywedodd:

“No. I think we'll need additional funding […] The private sector, I think, will play a big part; I don't think we can just do it from Government alone. You've heard me say many times that we're not planting enough trees and we need to ensure that we plant more, and we will.”

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.